Deryn y bwn a gododd
Y 'fala i gyd a gariodd
Dros y banna i farchnad Caer
Farchand Caer
Bwm bwm bwm bwm
Ac yno'n daer fe'u gwerthodd
Fala fala filoedd
Fala melyn laweroedd
Y plant yn gweiddi am fala'n groch
Gweiddi am groch
Bwm bwm bwm bwm
Rhoi dima' goch am gannoedd
Deryn y bwn aeth adra
Yn o+l dros ben y banna
Gwaeddai "Meistress O gwelwch y pres"
Gwelwch y pres
Bwm bwm bwm bwm
A ges i wrth werthu 'fala"
Ble mae uwdyn? Ble mae uwdyn?
Dyma fi. Dyma fi.
Sut mae heddiw?
Da iawn diolch.
I ffwrdd a chi. I fwrdd a chi.
Ble mae'r cogydd? Ble mae'r cogydd?
Dyma fi. Dyma fi.
Sut mae heddiw?
Da iawn diolch.
I ffwrdd a chi. I fwrdd a chi.
Ble mae'r pibydd? Ble mae'r pibydd?
Dyma fi. Dyma fi.
Sut mae heddiw?
Da iawn diolch.
I ffwrdd a chi. I fwrdd a chi.
Ble mae pwtsyn? Ble mae pwtsyn?
Dyma fi. Dyma fi.
Sut mae heddiw?
Da iawn diolch.
I ffwrdd a chi. I fwrdd a chi.
Curo'n dwylo
Curo'n dwylo
Clap a chlap
A Chlap fel hyn
Chwifio'n dwylo
Chwifio'n dwylo
Chwifio a chwifio
Lan fel hyn
Gwely gwely, hen blant bach
Gwely gwely, hen blant bach
Dime dime dime, hen blant bach
Dime dime dime, hen blant bach
Fory fory, hen blant bach
Fory fory, hen blant bach
Dime dime dime, hen blant bach
Dime dime dime, hen blant bach
Dau gi bach yn mynd i'r coed
Dan droi'u fferau dan droi'u troed
Dau gi bach yn rhedeg adre
Blawd ac esin hyd eu coesau
Dau gi bach
Teisen i Sil, banana i Bil
Tamaid i'r gath a'r ci
Afal mawr iach i Ben y gwas bach
A rhywbeth neis neis i fi
Jim Cro Crystyn
Wan tw ffo+r
A'r mochyn bach yn eistedd
Mor ddel ar y sto+l
Dacw dadi wedi dod yn o^l
Dadi ga i fynd a'r fuwch i'r ddo^l
Bore fory, cyn i chi ddeffro
Mi af i i'r beudy i ddysgu sut i odro
Mw Mw Mw meddai'r gwartheg ar y ddo^l
Bo Wo Wo meddai Pero ar eu ho^l
Pero Pero, taw y cyfarth
A do^d a'r buchod i odro yn y buarth
Last updated June 2000.
Author: Hazel Davey hlr@aber.ac.uk
This page is HTML4 compliant.
Check the page